Manteision
Mae ein tîm aelodaeth wedi gweithredu ar sail yr adborth a gafwyd gan ein haelodau dros y blynyddoedd er mwyn gwella’n barhaus y pecyn o fanteision a gynigir gennym.
Llwyddwyd i sicrhau manteision newydd gwych i’n haelodau yn ystod 2019, sy’n cynnwys:
- Ymddangosiadau gan chwaraewyr ym mhob bar
- Manteision newydd a allai arbed llawer o arian i chi! Maent yn cynnwys anrheg o £10 i’w defnyddio yn y Stadiwm
- Cyfle blynyddol i ennill taith i gêm oddi cartref gyda Gullivers
- £25 oddi ar deithiau i gemau oddi cartref, i bob aelod, trwy ein partner swyddogol Gullivers Sports Travel
- Cyfle blynyddol i ennill taith o amgylch y stadiwm yng nghwmni un o arwyr y gamp
- Cyfle blynyddol i ennill pecyn lletygarwch
Dewch yn aelod o Undeb Rygbi Cymru heddiw er mwyn manteisio ar yr uchod a llawer iawn mwy!