Ceisiadau gan glybiau sy’n aelodau
Amodau ar gyfer Gwneud Cais am Docynnau ar gyfer Clybiau sy’n Aelodau
Dim ond yn unol â’r Amodau hyn ar gyfer Gwneud Cais am Docynnau, yr Amodau ar gyfer Dosbarthu Tocynnau a Rheolau Maes y Stadiwm (“y Telerau”) y bydd Undeb Rygbi Cymru Cyfyngedig (“URC”) yn dyrannu ac yn rhoi tocynnau i Glybiau sy’n Aelodau o URC (y “Clybiau”) ar gyfer digwyddiadau a gemau rygbi yn Stadiwm Principality (y “Stadiwm”), a thrwy wneud cais am Docynnau a ddyrennir gan URC mae’r Clwb yn derbyn y Telerau ac yn cytuno â nhw.
Yn yr Amodau hyn, mae’r diffiniadau canlynol yn berthnasol:
Ystyr “Aelod o Glwb” yw unigolyn sy’n aelod bona fide o Glwb, sydd wedi’i benodi yn unol â chyfansoddiad y Clwb ac sydd wedi bod yn aelod am bythefnos neu fwy cyn iddo brynu neu gael Tocynnau. Os ceir unrhyw anghydfod ynghylch a yw rhywun yn Aelod gwirioneddol o Glwb ai peidio, bydd penderfyniad URC yn derfynol ac yn orfodol.
Ystyr “Noddwr Dilys” yw cwmni neu unigolyn (nad yw’n Unigolyn a Gyfyngir, oni bai bod y Clwb wedi cael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan URC) sy’n noddi Clwb ac sy’n cael budd o’r Clwb hwnnw (budd nad yw wedi’i gyfyngu i Docynnau ar gyfer gemau rygbi rhyngwladol Cymru) ac sydd wedi gwneud hynny yn ystod cyfnod nad yw’n llai na deufis cyn prynu neu gael Tocynnau. Os ceir unrhyw anghydfod ynghylch a yw rhywun yn Noddwr Dilys ai peidio, bydd penderfyniad URC yn derfynol ac yn orfodol.
Ystyr “Gweithredwr Trwyddedig Swyddogol” yw unrhyw drydydd parti sydd wedi’i awdurdodi neu’i drwyddedu gan URC i brynu Tocynnau oddi wrth y Clybiau i’w defnyddio mewn Pecynnau swyddogol, fel y bydd URC yn hysbysu’r Clybiau o bryd i’w gilydd.
Ystyr “Pecyn” yw Tocyn(nau) gyda budd(ion) ychwanegol sy’n cynnwys llety, bwyd, diod a/neu drefniadau teithio.
Ystyr “Unigolyn a Gyfyngir” yw
a) unigolyn neu gwmni sy’n gyfrifol am ddarparu tocynnau, trefniadau teithio, cyfleusterau manwerthu neu letygarwch corfforaethol (nad yw’n Weithredwr Trwyddedig Swyddogol);
b) unrhyw un sy’n cynnig cyfleusterau arlwyo ar ddiwrnod digwyddiad a gynhelir yn y Stadiwm, neu sy’n darparu cyfleusterau o’r fath trwy drydydd parti;
c) swyddog, asiant, gweithiwr neu unrhyw un a drwyddedwyd gan unrhyw un o’r uchod.
Ystyr “Trosglwyddai” yw Aelod o Glwb, Clwb sy’n Aelod o URC, sefydliadau sy’n gysylltiedig ag URC, Noddwr Dilys a Gweithredwr Trwyddedig Swyddogol.
Ystyr “Tocyn” yw tocyn a ddyrannwyd i Glwb ac a gafwyd gan Glwb yn uniongyrchol oddi wrth URC ar gyfer gemau rygbi’r undeb, ac eithrio unrhyw gêm y bydd URC yn nodi na fydd y Telerau yn berthnasol iddi.
1. Y broses ar gyfer gwneud cais
a. Mae URC yn awdurdodi’r Clwb fel ei asiant i ddosbarthu Tocynnau mewn modd teg a thryloyw i Drosglwyddeion, ar ôl i ffurflen gais y Clwb ddod i law ac ar ôl i’r Clwb brynu’r Tocynnau.
b. Rhaid i bris llawn y Tocynnau y gwnaed cais amdanynt gael ei dalu’n unol â thelerau URC ar gyfer talu am Docynnau o bryd i’w gilydd. Mae’r pris a nodir ar y Tocyn yn cynnwys TAW. Cyfrifoldeb y Clwb yw rhoi cyfrif am unrhyw TAW sy’n berthnasol i’r Tocyn.
2. Trosglwyddo Tocynnau
c. Dim ond i Drosglwyddai y caiff Clwb drosglwyddo Tocyn. Gall y Clwb godi ffi weinyddu yng nghyswllt pob Tocyn, ond ni chaiff y ffi fod yn fwy na swm sy’n sicrhau nad yw’r Clwb yn elwa o drosglwyddo’r Tocyn i Drosglwyddai, neu swm arall a bennir gan URC o bryd i’w gilydd.
ch. Ni ddylid trosglwyddo Tocyn, ei ailwerthu neu’i gyflenwi i neb am bris sy’n uwch na’r hyn a nodir ar y Tocyn, ac eithrio i Weithredwr Trwyddedig Swyddogol. Ni ellir hysbysebu Tocyn i’w werthu am bris sy’n uwch na’r hyn a nodir ar y Tocyn. Ni all Tocyn gael ei ddefnyddio’n wobr neu’n rhan o gystadleuaeth, nac mewn unrhyw weithgarwch hyrwyddo neu weithgarwch tebyg, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan URC.
d. Ni ddylid prynu na chael Tocyn oddi wrth na thrwy unrhyw unigolyn, asiant masnachol, cwmni neu endid arall ar wahân i’n uniongyrchol oddi wrth URC a’i asiantiaid awdurdodedig.
dd. Dim ond Tocynnau y ceir eu trosglwyddo i Noddwyr Dilys.
e. Dim ond Gweithredwr Trwyddedig Swyddogol a gaiff ailwerthu Tocynnau, eu trosglwyddo, eu cyflenwi neu’u hysbysebu i’w gwerthu yn rhan o Becyn.
f. Rhaid i’r Clwb sicrhau bod y Telerau’n cael eu cynnwys ym mhob cytundeb (boed yn gytundeb ysgrifenedig neu lafar) i gyflenwi Tocynnau i Drosglwyddeion, a rhaid iddo sicrhau nad yw’n cyflenwi Tocynnau i Drosglwyddeion oni bai bod y Trosglwyddeion hynny’n derbyn y Telerau, gan gynnwys y gwaharddiad ar gyflenwi Tocynnau yn rhan o Becyn, neu werthu neu gynnig gwerthu neu drosglwyddo Tocynnau am bris sy’n uwch na’r hyn a nodir ar y Tocyn, neu hysbysebu’r Tocynnau hynny.
ff. Bydd unrhyw Docyn a gyflenwir neu a geir yn groes i’r Telerau yn annilys, a bydd yr holl hawliau a roddir gydag ef yn cael eu dileu. Bydd unrhyw unigolyn sy’n ceisio defnyddio Tocyn a gafwyd yn groes i’r Telerau er mwyn cael neu roi mynediad i’r Stadiwm neu er mwyn aros yn y Stadiwm yn tresmasu, a gellir gwrthod caniatáu i’r unigolyn fynd i mewn i’r Stadiwm neu gellir ei droi allan o’r Stadiwm, a gellid cymryd camau cyfreithiol yn ei erbyn.
g. Bydd unrhyw Docyn sy’n cael ei gyflenwi i Drosglwyddai, neu gan Drosglwyddai, mewn modd sy’n groes i’r Telerau yn golygu y bydd y Clwb yn atebol fel yr eglurir yn yr amodau sydd ym mharagraff 5 isod. I osgoi unrhyw amheuaeth, mae hynny’n cynnwys unrhyw gamau a gymerir i gyhoeddi neu hysbysebu ar y rhyngrwyd neu fel arall gyda’r bwriad o ailwerthu neu hyrwyddo Tocynnau er mwyn elwa’n fasnachol, sy’n cynnwys cynnig Tocyn yn rhan o unrhyw Becyn na chaiff ei werthu gan URC a/neu Weithredwr Trwyddedig Swyddogol.
ng. Rhaid i Glwb gadw cofnod llawn a manwl o fanylion y Tocynnau, ac enw a chyfeiriad y Trosglwyddeion y mae wedi cyflenwi Tocynnau iddynt am o leiaf 2 flynedd, a rhaid iddo ddarparu’r wybodaeth honno i URC cyn pen 7 diwrnod ar ôl cael cais ysgrifenedig i wneud hynny. Bydd y Clwb yn gyfrifol am gael pob caniatâd sy’n ofynnol wrth drosglwyddo’r Tocynnau ac sy’n ofynnol er mwyn galluogi’r Clwb i ddatgelu’r wybodaeth berthnasol i URC, gan gynnwys unrhyw ganiatâd sy’n ofynnol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.
h. Mae gan ddeiliad Tocyn yr hawl i eistedd yn y sedd a nodir ar y Tocyn, ac mae URC yn cadw’r hawl i ddarparu sedd arall ar wahân i’r un a nodir ar y Tocyn.
3. Noddwyr Dilys
i. Caiff Clwb, yn rhan o drefniant nawdd, gyflenwi Tocynnau i Noddwr Dilys yn gyfnewid am arian neu fuddion mewn da ond rhaid i unrhyw Docynnau a gyflenwir fod yn rhwym wrth y Telerau, ac yn rhwym yn benodol wrth amodau ‘j’ i ‘n’ isod.
j. Rhaid i Glwb sicrhau nad yw ef na’i asiantiaid yn defnyddio Tocynnau fel yr unig neu’r prif gymhelliant i unrhyw unigolyn neu gwmni ddod yn Noddwr Dilys neu’n Aelod o’r Clwb. Rhaid i Glwb sicrhau nad yw’r asiantiaid neu’r aelodau a ddefnyddir i ddod o hyd i Noddwyr Dilys yn cynnig i’r endidau hynny Docynnau ar gyfer digwyddiadau yn y Stadiwm, cyn eu bod wedi ymrwymo i gontract gyda’r Clwb i ddod yn Noddwr Dilys.
l. Ni chaiff Clwb ymrwymo i drefniant nawdd gydag unigolyn neu gwmni a gyflwynir neu a gyflwynwyd i’r Clwb gan Unigolyn a Gyfyngir, oni bai bod y Clwb yn cael cymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan URC.
ll. Rhaid i Glwb sicrhau nad yw’n defnyddio ei hawl i werthu Tocynnau i Noddwr Dilys neu Aelod o’r Clwb fel ffordd o osgoi gorfod cydymffurfio â’r Telerau (neu nad yw effaith ei weithredoedd yn gyfystyr ag osgoi gorfod cydymffurfio â’r Telerau).
m. Ni chaniateir i unrhyw Noddwr Dilys (ar wahân i un o noddwyr URC) ddefnyddio unrhyw Docyn yn wobr neu’n rhan o gystadleuaeth, nac mewn unrhyw weithgarwch hyrwyddo neu weithgarwch tebyg, nac mewn unrhyw becyn lletygarwch neu deithio neu unrhyw becyn masnachol arall, nac at unrhyw ddiben sy’n ymwneud â’r cyfryngau, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan URC. Rhaid i bob Noddwr Dilys sicrhau nad yw’n rhoi’r argraff ei fod yn un o noddwyr URC.
n. Rhaid i Glwb sicrhau bod pob trefniant i gyflenwi Tocynnau i Noddwr Dilys yn drefniant ysgrifenedig, a bod y manylion yn cael eu nodi yng nghofnodion y Clwb y mae’n rhaid iddynt fod ar gael i’w harchwilio gan URC unrhyw bryd o gael cais ysgrifenedig ganddo. Rhaid i Glwb sicrhau bod y cytundeb yn cynnwys y telerau penodol a nodir uchod.
4. Canslo ac Ad-dalu
o. Mae URC yn cadw’r hawl i ganslo neu aildrefnu’r digwyddiadau a hysbysebir ganddo. Os caiff digwyddiad ei dorri’n fyr neu’i ganslo am unrhyw reswm, ni ellir cynnig ad-daliad. Os bydd digwyddiad yn cael ei ohirio, bydd y Tocyn yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd.
p. Deiliad y Tocyn fydd yn gyfrifol am unrhyw drefniadau personol a drefnwyd ganddo sy’n cynnwys trefniadau teithio, llety neu letygarwch yn ymwneud â’r digwyddiad. [Caiff atebolrwydd am unrhyw achos o ganslo neu aildrefnu digwyddiad, neu am unrhyw newidiadau o bwys i ddigwyddiad, ei gyfyngu i’r ad-daliad fel yr eglurir yn y telerau sy’n ymwneud â’r digwyddiad penodol dan sylw.]
5. Gweithredu’n groes i’r Amodau ar gyfer Gwneud Cais am Docynnau
ph. Os bydd Clwb yn gweithredu’n groes i unrhyw un o’r Telerau, gall URC ddefnyddio ei ddisgresiwn absoliwt i ddiddymu a/neu atal hawl y Clwb i brynu Tocynnau a/neu gallai’r Clwb wynebu cosbau ariannol a/neu gosbau eraill.
r. Gall URC ddefnyddio ei ddisgresiwn absoliwt i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn Clwb, Trosglwyddai neu rywun arall a gafodd Docynnau, sy’n gweithredu’n groes i unrhyw un o’r Telerau.
rh. Mae’r Tocynnau yn gyfrifoldeb absoliwt y Clwb y rhoddwyd y Tocynnau iddo, ac mae’r Clwb yn cytuno y gallai barhau i wynebu un neu ragor o’r cosbau yn amod ‘r’ er y gallai unrhyw gamddefnydd o’r Tocynnau a ddyrannwyd iddo neu unrhyw achos o weithredu’n groes i un neu ragor o’r amodau fod y tu hwnt i’w reolaeth a/neu ddigwydd heb yn wybod iddo.
s. Bydd pob Tocyn yn parhau’n eiddo i URC bob amser.
t. Mae’r Amodau hyn ar gyfer Gwneud Cais am Docynnau yn berthnasol hefyd i’r Tocynnau y bydd y Clwb yn eu cael o fannau eraill ar wahân i URC, ac maent yn ymgorffori’r Amodau ar gyfer Dosbarthu Tocynnau sydd i’w gweld ar www.wru.co.uk.