Neidio i'r prif gynnwys

Gweithdrefn Ar Gyfer Darparu Ail Gopilau O Docunnau

WRU

Gweithdrefn Grŵp Undeb Rygbi Cymru (“URC”) ar gyfer Darparu Ail Gopïau o Docynnau

Os ydych wedi colli eich tocyn neu os yw eich tocyn wedi’i ddwyn, dylech gysylltu â Swyddfa Docynnau URC ar unwaith ar 02920 822 432 neu customercare@wru.co.uk gan roi eich enw a manylion eich tocyn, gan gynnwys ble yn y Stadiwm yr oedd eich sedd. Os ydych yn ddeiliad debentur trwy glwb rygbi neu os oeddech wedi prynu eich tocynnau trwy glwb rygbi, dylech gysylltu â’r clwb yn y lle cyntaf.

Os byddwch yn colli eich tocyn neu os bydd eich tocyn yn cael ei ddwyn ar ddiwrnod y digwyddiad, dylech fynd i Swyddfa Docynnau URC yn Stadiwm Principality gan roi manylion llawn y tocyn sydd wedi’i golli neu’i ddwyn.

Os yw eich tocyn wedi’i ddwyn, bydd angen i Swyddfa Docynnau URC gael rhif trosedd (a gaiff ei ddarparu gan yr heddlu pan fyddwch yn rhoi gwybod am rywbeth sydd wedi’i ddwyn).

Ar ôl cadarnhau a gwirio’r amgylchiadau a arweiniodd at golli neu ddwyn y tocyn, bydd URC yn rhoi ail gopi o’r tocyn i ddeiliad y tocyn. Caiff ail gopïau o docynnau eu rhoi yn ôl disgresiwn URC yn unig, ac nid oes dim sicrwydd y bydd URC yn rhoi ail gopi o docyn. Dylech nodi y codir ffi weinyddol o £10 am bob tocyn.

Os bydd URC yn rhoi ail gopi o docyn, bydd y tocyn gwreiddiol yn annilys yn syth. Dim ond o’r man casglu tocynnau yn siop URC yn Heol y Porth (ger Giât 3) y bydd ail gopïau o docynnau ar gael i’w casglu, a gellir eu casglu ar ddiwrnod y digwyddiad.

Bydd angen i chi ddarparu dogfennau adnabod er mwyn casglu’r tocynnau. Yn anffodus, ni allwn anfon ail gopïau o docynnau trwy’r post. Os nad chi brynodd y tocynnau, dylech nodi y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth bod y tocynnau wedi’u prynu’n wreiddiol, cyn y gellir rhoi ail gopïau o docynnau.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gweithdrefn Ar Gyfer Darparu Ail Gopilau O Docunnau
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gweithdrefn Ar Gyfer Darparu Ail Gopilau O Docunnau
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gweithdrefn Ar Gyfer Darparu Ail Gopilau O Docunnau
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Gweithdrefn Ar Gyfer Darparu Ail Gopilau O Docunnau