Trefniadau teithio swyddogol a gwyliau byr adeg gemau
Mae Gullivers Sports Travel yn cynnig pecynnau teithio sy’n cynnwys tocynnau, ar gyfer gemau cartref ac oddi cartref tîm rygbi Cymru.
Mae’r pecynnau ar gyfer y gemau cartref yn Stadiwm Principality yn cynnwys tocyn swyddogol a llety am o leiaf un noson yng Nghaerdydd. Mae ystod o becynnau ar gael ar gyfer gemau oddi cartref sy’n rhan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad a Theithiau’r Haf, ac maent yn amrywio o rai sy’n cynnwys gwesty a thocyn swyddogol yn unig i rai sy’n eich tywys o le i le drwy gydol y daith ac sy’n cynnwys y trefniadau hedfan a theithio i gyd.
I gael gwybod mwy, ewch i: https://gulliverstravel.co.uk/rugby
Mae Gullivers Sports Travel yn falch o fod yn un o Bartneriaid Swyddogol Undeb Rygbi Cymru.
Gullivers Sports Travel yw cwmni hynaf a mwyaf blaenllaw’r DU ym maes trefnu teithiau sy’n ymwneud ag amryw gampau. Mae’n cynnig cyfleoedd i gefnogwyr deithio i’r prif ddigwyddiadau chwaraeon a gynhelir ledled y byd. Yn ystod y pedwar degawd diwethaf mae wedi tyfu ac yn arwain y farchnad yn ei faes, ac mae wedi ennill bri rhyngwladol sy’n seiliedig ar wasanaeth personol a dealltwriaeth drylwyr o anghenion pobl sy’n teithio i bob cwr o’r byd er mwyn cymryd rhan mewn chwaraeon neu wylio chwaraeon.