Cai Evans
Chwaraeodd Evans ei gêm gyntaf i’r Gweilch yn 2017 ar ôl chwarae cyn hynny i Academi’r Gweilch, Pen-y-bont ar Ogwr a thîm datblygu’r Gweilch. Chwaraeodd ei gêm gyntaf yn y Cwpan Her ar 20 Hydref 2018 yn erbyn Caerwrangon.
Mae’n fab i’r enwog Ieuan Evans, a dechreuodd ar ei yrfa fel chwaraewr yn y Bont-faen pan oedd yn chwech oed. Bu’n chwarae i Gleision Caerdydd i ddechrau ond symudodd i’r Gweilch wedi iddo fethu â chael ei ddewis i dîm dan 16 Cymru.
Mae wedi chwarae i Ben-y-bont ar Ogwr yn Uwch Gynghrair Principality ac mae’n cyfuno chwarae rygbi ag astudio am radd mewn cyfrifyddu a chyllid ym Mhrifysgol Abertawe.
Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i’r timau dan 20 yn 2019, ef oedd un o gicwyr mwyaf dibynadwy’r gystadleuaeth; llwyddodd gyda phob ymgais at y pyst hyd at y rownd olaf pan oedd Cymru yn chwarae gartref yn y gogledd yn erbyn tîm Iwerddon a aeth ymlaen i gipio’r Gamp Lawn.