Harri Morgan
Mae Harri Morgan wedi creu darn bach o hanes, gan mai ef oedd y chwaraewr cyntaf a anwyd yn y ganrif hon i chwarae dros ranbarth y Gweilch (a llwyddodd i gyflawni’r dwbl hefyd, gan mai ef yw’r chwaraewr cyntaf a anwyd yn y ganrif hon i sgorio cais dros y Gweilch).
Chwaraeodd ei gêm gyntaf i ranbarth y Gweilch yn 2018 ar ôl dod trwy Academi’r Gweilch a thîm Pen-y-bont ar Ogwr.
Pan oedd yn iau, roedd yn chwaraewr canol cae dawnus gyda thîm pêl-droed dan 11 Dinas Caerdydd, cyn iddo ddechrau chwarae rygbi gyda thîm Maesteg Celtic. Wedi iddo symud i Fryncethin, cafodd ei ddewis i dîm dan 15 Rhanbarth Pen-y-bont ar Ogwr, a arweiniodd yn y pen draw at gael ei ddewis i’r Gweilch.