
Jac Price
Roedd Jac Price, sy’n ddisgybl yn Ysgol Bro Myrddin, yn rhan o ddosbarth 2018-19 Academi’r Scarlets.
Ar ôl gwneud argraff wrth chwarae i dîm dan 16 Dwyrain y Scarlets, cafodd ei ddewis ar gyfer carfan dan 18 Cymru yn 2018 a fu’n cymryd rhan mewn twrnamaint yn Ne Affrica gan chwarae yn erbyn Ysgolion De Affrica, Ffrainc a Lloegr.
Roedd yn rhan o garfan dan 20 Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019. Cafodd ei ddewis ar gyfer y gêm agoriadol yn erbyn Ffrainc ond collodd y ddwy gêm nesaf yn erbyn yr Eidal a Lloegr ar ôl cael ei wahardd. Cafodd ei ddewis i ddechrau’r gêm yn erbyn yr Alban a daeth i’r cae fel eilydd yng ngêm olaf yr ymgyrch yn erbyn Iwerddon.