Rhys Davies
Dechreuodd chwarae yn Aberdaugleddau pan oedd yn wyth oed, cyn symud i Neyland. Cynrychiolodd dîm dan 15 Sir Benfro a thîm dan 16 Gorllewin y Scarlets a chwaraeodd hefyd i dîm dan 16 Cymru.
Yna, symudodd i Lanelli lle bu’n chwarae i Goleg Sir Gâr cyn ennill cap i dîm dan 18 Cymru.
Mae wedi chwarae i Gwins Caerfyrddin yn Uwch Gynghrair Principality dan yr hyfforddwr Richard Kelly, sydd bellach yn hyfforddwr blaenwyr tîm dan 20 Cymru.
Mae’r prop pen rhydd wedi chwarae rhan amlwg yn rhai o fuddugoliaethau mwyaf Cymru ar lefel y grwpiau oedran – roedd yn aelod o dîm dan 18 Cymru a gipiodd fuddugoliaeth brin dros Loegr yng Nglynebwy yn 2017 ac yn Ne Affrica yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, a chwaraeodd ran bwysig ym muddugoliaethau’r tîm dan 20 yn erbyn Awstralia ym Mhencampwriaeth Iau’r Byd i’r timau dan 20 yn 2018 a’r fuddugoliaeth funud olaf yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2019.
Er syndod, cafodd ei ryddhau gan y Scarlets ar ôl Pencampwriaeth Rygbi’r Byd i’r timau dan 20 yn 2018, a chroesodd Bont Llwchwr er mwyn ymuno â’r Gweilch.