Cynhaliwyd lansiad blynyddol tymor y clybiau i ferched yng Nghanolfan Ragoriaeth Cymru, lle bu Prif Hyfforddwr Tîm Cenedlaethol y Merched ac Arweinydd y Rhaglen, Rhys Edwards, yr Ysgrifennydd Cystadlaethau Adrian Howell, a Ffion Jones sy’n chwarae i dîm Met Caerdydd yn sôn am eu hawydd i’r tymor newydd ddechrau.