Neidio i'r prif gynnwys
Cic gyntaf erioed Super Rygbi Cymru ar fin digwydd ar Barc Pont-y-pŵl

Y Parc eiconig ym Mhont-y-pŵl

Cic gyntaf erioed Super Rygbi Cymru ar fin digwydd ar Barc Pont-y-pŵl

Bydd Llywydd Undeb Rygbi Cymru, Terry Cobner, ym Mharc Pont-y-pŵl heno i weld y gic gyntaf fawr yn Super Rygbi Cymru pan fydd enillwyr y dwbl y tymor diwethaf – Llanymddyfri yn herio cyn glwb y Llywydd (cic gyntaf 7.30pm, yn fyw ar S4C).

Rhannu:

Roedd y Porthmyn yn un o ddau dîm yn unig y methodd tîm Leighton Jones â’u curo y tymor diwethaf yn Uwch Gynghrair Indigo. Enillodd Llanymddyfri o 37-21ar eu tomen eu hunain ac fe hawlion nhw fuddugoliaeth o 48-26 ym Mharc Pont-y-pŵl.

Mae’r tîm cartref wedi cynnwys dau aelod amlwg o academi y Dreigiau, Ioan Duggan a Sam Scarfe yn eu tîm heno. Mae Duggan yn dechrau ar yr asgell dde tra bod cyn-fachwr dan 20 Cymru, Scarfe yn cymryd ei le arferol yn y rheng flaen.

Bydd y Porthmyn yn cyrraedd gyda chlo academi’r Scarlets Will Evans ymhlith eu rhengoedd. Bydd bachwr o dan 20 Cymru, Harry Thomas, ar y fainc ynghyd â Steff Jac Jones sydd wedi cynrychioli tîm o dan 18 ei wlad wrth gwrs.

Pont-y-pŵl: Jordan Thomas; Ioan Duggan, Joel Mahoney, Pat Lewis, Matt Powell; Kieran Meek, Matthew Flanagan; Sam Cochrane, Sam Scarfe, Kelvyn Williams, Morgan Allen, Dan Hill, Mike Herbert (capten), Callum Davies, Scott Matthews
Cynrychiolwyr: Kyan Best, Darren Hughes, Jack Noyes, Ieuan Jones, Adam Stratton, Owen Leonard, Joe Scrivens, Tye Davies

Llanymddyfri: Jack Maynard; Ilan Phillips, Adam Warren, Rhodri Davies, Aaron Warren; Ioan Hughes, Lee Rees (capten); Jamie Hughes, Taylor Davies, Llyr Green, Will Evans, Chris Long, Osian Davies, Stuart Worrall, Jordan Evans
Cynrychiolwyr: Dino Dalavalle, Harry Thomas, Guto Jones, Jake Baker, Nathan Hart, Morgan Meaclem, Steff Jac Jones, George Macdonald

“Yr holl bwynt am y cynghrair newydd yma yw rhoi’r cyfleoedd chwarae o dan yr amodau cywir i’r chwaraewyr iau sy’n dod drwy lwybr URC. Bydd hyn yn sicr o gyflymu eu datblygiad,” meddai Huw Bevan, Cyfarwyddwr Perfformiad URC.

” Mae cyrraedd y pwynt yma wedi bod yn heriol ond ry’n ni’n credu bod y gystadleuaeth hon yn bendant werth yr ymdrech honno.

“I mi, mae Super Rygbi Cymru’n darparu rhan hanfodol o’n llwybr datblygu. Ry’n ni wedi gwneud llawer iawn o waith wrth ailstrwythuro ac adfywio’r llwybr hwnnw ac mae’n hanfodol bod gennym gystadleuaeth sy’n briodol i’r chwaraewyr ar bob cam o’u datblygiad.

“Bydd SRC yn helpu i gyflymu datblygiad ein chwaraewyr mwyaf addawol – ond ar ben hynny bydd y gystadleuaeth ei hun yn gyffrous, dwys, cystadleuol a blaengar.

“Bydd y bois ifanc yn cael y cyfle i herio chwaraewyr rygbi profiadol.

“Bydd hefyd yn rhoi ail-gyfle i’r chwaraewyr hynny sydd heb sicrhau cytundeb gydag academi ddangos beth sydd ganddyn nhw i’w gynnig.”

Mae’r gemau eraill yn Rownd 1af SRC yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn – Cwins Caerfyrddin v Abertawe, Glyn Ebwy v Aberafan, Casnewydd v Penybont a Rygbi Gogledd Cymru v Caerdydd.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cic gyntaf erioed Super Rygbi Cymru ar fin digwydd ar Barc Pont-y-pŵl
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cic gyntaf erioed Super Rygbi Cymru ar fin digwydd ar Barc Pont-y-pŵl
Cic gyntaf erioed Super Rygbi Cymru ar fin digwydd ar Barc Pont-y-pŵl
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cic gyntaf erioed Super Rygbi Cymru ar fin digwydd ar Barc Pont-y-pŵl
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cic gyntaf erioed Super Rygbi Cymru ar fin digwydd ar Barc Pont-y-pŵl